Math o eiddo deallusol yw cyfrinach masnach. Gall cyfrinanachau masnach gynnwys fformiwlâu, arferion, prosesau, dyluniadau, offerynnau, patrymau, neu gasgliadau o wybodaeth sydd â gwerth economaidd am nad ydynt yn hysbys iawn nac yn hawdd eu canfod gan eraill. Rhaid i berchennog y gyfrinach gymryd camau rhesymol i gadw'n gyfrinachol. Mae cyfraith eiddo deallusol yn rhoi’r hawl i berchennog cyfrinach fasnachol atal eraill rhag ei datgelu.[1]